COVID-19

DIOLCH I ARWYR Y PENTREF YN YSTOD CYFYNGIADAU COFID-19
Hoffai aelodau Cyngor Cymuned y Fali ddiolch o galon i phawb yn y pentref, bod nhw yn fusnesau, unigolion, teuleoedd , gwirfoddolwyr neu grwpiau sydd wedi dod at ei gilydd sydd wedi cynnig, ac yn parhau i gynnig, cymorth eithriadol i drigolion bregus y pentref yn ystod cyfyngiadau COFID-19.


PARC MWD A PHARC CHWARAE GER YSGOL GYMUNED Y FALI

FE FYDD Y PARCIAU YN AIL AGOR AM HANNER DYDD, DYDD MAWRTH 7FED GORFFENNAF 2020

GOFYNNIR I DDEFNYDDWYR Y PARCIAU GYDYMFFURFIO GYDA CHANLLAWIAU CADW PELLTER CYMDEITHASOL YN UNOL A RHEOLIADAU PRESENNOL LLYWODRAETH CYMRU.

Gwybodaeth pellach ar gael ar: https://llyw.cymru/coronafeirws


Medrwn Mon COVID-19 E-Fwletin #4


Canllawiau wedi'u diweddaru ar angladdau

Mae’r canllawiau i awdurdodau lleol ar angladdau wedi’u diweddaru bellach i adlewyrchu’r diwygiadau hyn: https://llyw.cymru/covid-19-canllawiau-i-awdurdodau-lleol-ar-angladdau

Dylid nodi bod y canllawiau hefyd wedi’u hymestyn i gynnwys gofal personol i’r ymadawedig. Er nad yw’r cyngor presennol yn y maes hwn wedi newid, mae’r adran hon wedi’i chynnwys er mwyn darparu’r cyngor mewn ffordd fwy hygyrch.

Yn ogystal, mae’r canllawiau wedi’u diweddaru i awgrymu y dylai galarwyr sy’n hunanynysu am 14 diwrnod gan fod rhywun yn eu cartref yn sâl ac â’r symptomau (ond nid oes ganddynt y symptomau eu hunain), neu alarwyr sy’n eithriadol o agored i niwed neu mewn grŵp a warchodir, gael eu cynorthwyo i fynd i’r angladd yn bersonol os ydynt am wneud hynny, gan roi prosesau yn eu lle i leihau’r perygl o drosglwyddo’r haint.


PARC MWD A PHARC CHWARAE GER YR YSGOL

Er mwyn cydymffurfio gyda chanllawiau, fe fydd y parciau uwchlaw ar gau hyd nes y bydd hysbyseb pellach.


RHYBUDD CAU BRYS - Llwybr Troed Rhif 18


CEFNOGI EIN CYMUNED YN Y FALI

Ar hyn o bryd mae Medrwn Môn a Menter Môn yn ceisio creu rhestr o wirfoddolwyr gall helpu eraill yn ein Cymuned neu fyddai yn gallu helpu i gyd-lynu cynllun.  Pe byddech eisiau cynnig cefnogaeth, gallwch gwblhau y ffurflen islaw a’i gyrru ymlaen drwy ebost at:  linc@medrwnmon.org neu drwy ffonio Medrwn Mon ar 01248 725745.

Ffurflen wirfoddolwyr (Microsoft Word)

Ffurflen wirfoddolwyr (Adobe PDF)

Nodiadau Cyfarwyddyd i wirfoddolwyr (Adobe PDF)


CYNGOR SIR YNYS MON

DIWEDDARIAD: Coronafeirws: Ceir y wybodaeth diweddaraf am wasanaethau’r Cyngor Sir yma:

https://www.ynysmon.gov.uk/cy/Trigolion/Argyfyngau/Gwybodaeth-Covid-19-Coronavirus.aspx

Diweddariad pwysig am Brif Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni.