Bwriad i gau Ffordd Gorad – Medi 22-26

BWRIAD I GAU FFORDD GORAD, Y FALI A GWYRIAD ARFAETHEDIG – 22 MEDI TAN 26 MEDI 2025

Annwyl Mrs Sheldon,

Ysgrifennaf atoch ar ran National Grid Electricity Transmission i roi gwybod i chi fod angen i ni wneud gwaith cloddio ar Ffordd Gorad, y Fali. Mae’r gwaith yn ofynnol yn rhan o’n prosiect i adeiladu is-orsaf newydd ym Mhenrhos ac i gadarnhau union leoliad piblinell nwy.

Er mwyn cwblhau’r gwaith cloddio’n ddiogel, bydd angen cau rhan o Ffordd Gorad i draffig o 22 Medi 2025 tan 26 Medi 2025, a bydd modurwyr yn cael eu dargyfeirio i ddefnyddio’r A5025. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd preswylwyr yn gallu cyrraedd eiddo oddi ar Ffordd Gorad gan ddefnyddio llwybr y gwyriad, a bydd mynediad i gerddwyr a beicwyr yn cael ei gynnal.

Disgwylir i’r gwaith bara pum niwrnod, a bydd preswylwyr yn gallu cyrraedd eu heiddo yn y ffordd arferol o 27 Medi 2025 ymlaen.

Mae angen cau’r ffordd oherwydd ystyrir nad yw cynlluniau hanesyddol yn dangos lleoliad y biblinell nwy o dan Ffordd Gorad yn iawn. Credir bod y biblinell wedi’i gosod yn ddyfnach nag y mae’r mapiau sydd ar gael yn awgrymu. Bydd ein tîm yn cloddio rhan o’r ffordd yn ofalus i gadarnhau safle’r biblinell cyn ei hadfer yn llwyr.

Byddwn yn sicrhau bod y gymuned leol yn gwbl ymwybodol o’r gwaith hwn ymlaen llaw. Bydd llythyr yn cael ei ddosbarthu i oddeutu 2,000 o breswylwyr sy’n byw agosaf i Ffordd Gorad, yn rhoi’r wybodaeth uchod iddynt ac yn darparu ein manylion cyswllt uniongyrchol os hoffent drafod ymhellach. Bydd cynllun yn cael ei gynnwys sy’n amlinellu lleoliad y gwaith a llwybr arfaethedig y gwyriad (mae copi o’r cynllun hwn wedi’i atodi i’r neges e-bost). Bydd datganiad i’r wasg yn cael ei ryddhau hefyd i siopau lleol i hysbysu’r gymuned ehangach.

Mae National Grid yn gweithio’n agos gyda Chyngor Cymuned y Fali ynglŷn â’r gwaith hwn. Mae digwyddiadau galw heibio’n cael eu trefnu hefyd lle gall y gymuned leol drafod y gwaith hwn ymhellach a gofyn unrhyw gwestiynau. Mae cwmnïau bysiau ac ysgolion lleol wedi cael gwybod am y gwaith hwn trwy Adran Briffyrdd Cyngor Sir Ynys Môn.

Deallwn y bydd y gwaith hwn yn tarfu ychydig ar y gymuned leol, ac ymddiheurwn yn ddiffuant ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra a achosir. Bydd ein tîm yn gweithio i gwblhau’r gweithgareddau hyn mor effeithlon a diogel â phosibl.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech drafod y gwaith arfaethedig ymhellach gyda’n tîm prosiect, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy anfon neges e-bost at penrhos@nationalgrid.com neu drwy ffonio 0800 066 8941.

Diolch am eich ystyriaeth.

Yn gywir,

 

Elliot Hobbs

Rheolwr Prosiect Arweiniol – Cysylltiadau Cwsmeriaid (Gogledd)

National Grid Electricity Transmission

Gorad Road Closure – Infographic

Comments for this post are closed.