Teyrnged i’r Cynghorydd Ken Taylor

Mae’r Cyngor yn nodi gyda thristwch mawr farwolaeth sydyn Ken Taylor, aelod o Gyngor Cymuned Fali.

Ymunodd â’r Cyngor Cymuned ym Mehefin 2013, gan wasanaethu’n ymroddedig. Etholwyd ef yn Is-gadeirydd yn 2018 ac yn Gadeirydd am ddau dymor yn 2019 a 2020.

Roedd yn ymrwymedig i’w gymuned ac yn awyddus i hyrwyddo lles trigolion Fali ac i gefnogi’r iaith Gymraeg ar bob cyfle. Mae’r Cyngor yn cydnabod ei gyfraniad pwysig dros y blynyddoedd.

Estynnir cydymdeimlad dwysaf â’i blant, ei deulu a’i ffrindiau. Bydd ei golled yn cael ei theimlo’n fawr yng Nghyngor Cymuned y Fali.

 

Neges gan y Cadeirydd:

“Bydd y rhai a fu’n gweithio gydag ef yn cofio ei angerdd, ei uniongyrchedd a’i barodrwydd i sefyll dros ei gymuned.

Roedd ei gefnogaeth i’r iaith yn rhan bwysig o’i gyfraniad i’r Cyngor, ac yn adlewyrchu ei falchder yn ei hunaniaeth, ei dreftadaeth a’i ddiwylliant lleol.

Bydd ei flynyddoedd lawer o wasanaeth, ei ymrwymiad i’r gymuned a’i gyfraniad i fywyd cyhoeddus yn cael eu cofio gyda diolchgarwch.

Ar ran y Cyngor, estynnwn ein cydymdeimlad diffuant â theulu Ken, ei ffrindiau, a phawb a’i hadnabu yn ystod y cyfnod trist hwn.”

Sedd Wag – Ward y Pentref

Cyngor Cymuned y Fali
Valley Community Council

Sedd Wag / Vacant Seat

Ward y Pentref
Village Ward

Am ragor o wybodaeth plis cysylltwch a’r clerc
For more information please contact the clerk

clerk@valley-community-council.wales

Dyddiad cau/Closing date: 14/01/2026

Sedd Gwag – Ward Y Pentref

RHYBUDD CYHOEDDUS

Sedd Gwag – Swydd Cynghorydd

Cymuned Y FALI

Ward Y PENTREF

Rhoddir rhybudd trwy hyn fod 1 sedd wag am swydd Cynghorydd yn y Gymuned uchod.

Bydd etholiad yn cael ei gynnal i lenwi’r sedd gwag petai y Swyddog Canlyniadau, Gwasanaethau Etholiadol, Swyddfeydd y Cyngor Sir, LLANGEFNI, Ynys Môn, LL77 7TW, yn derbyn cais am etholiad o’r fath yn ysgrifenedig o fewn pythefnos ar ôl dyddiad y Rhybudd hwn (ac eithrio penwythnosau a gwyliau banc), oddi wrth DEG o bobl sydd wedi cofrestru fel etholwyr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal leol lle cafwyd y sedd gwag.

Dylan Williams
Swyddog Canlyniadau / Returning Officer
24 Hydref / October 2025

RHYBUDD CYNTAF – Y Fali – Y Pentref 24.10.2025

FAN YMGYSYLLTU CYMUNEDOL YR HEDDLU

Dewch draw i gyfarfod eich Tîm Plismona Cymdogaethau.

  • Mae Gogledd Cymru’n Siarad yn rhoi cyfle i drigolion ein
    hysbysu o’r materion sydd bwysicaf i’w cymunedau lleol.
  • Ymunwch â’r cynllun Rhybudd Cymunedol Gogledd
    Cymru AM DDIM.

Dydd Mercher 8 Hydref;
Llanfechell (Senotaff) – 9am
Benlleth (Maes Parcio Spar) – 12pm
Pentraeth (Nant y Felin) – 2pm

Dydd Iau 9 Hydref;
Fali (Maes Parcio Canolfan Siopa) – 9am
Rhosneigr (Maes Parcio’r Llyfrgell) – 12pm
Llanfairpwll (Ty’n Caeau a Maes Parcio Pringles) – 3pm

Dydd Gwener 10 Hydref;
Gaerwen (Maes Parcio Canolfan Esceifiog) – 1pm
Talwrn (Maes Parcio Neuadd y Pentref) – 3pm
Gwalchmai (Maes Meurig) – 4pm

91738 Engagement Van A3 Poster (08.09)