Croeso i Wefan newydd Cyngor Cymuned Fali
Yma cewch wybodaeth werthfawr ar gyfer trigolion ac ymwelwyr i Fali, gan gynnwys:
- Manylion y Cynghorydd sy’n cynrychioli eich ward ar Gyngor Cymuned Fali
- Cysylltiadau at wybodaeth o’r gwasanaethau a ddarperir gan Gyngor Cymuned Fali
- Dyddiadau, Agendau a Chofnodion Cyfarfodydd o Gyngor Cymuned Fali
- Gwybodaeth ar Lywodraethiant Cyngor Cymuned Fali
- Manylion cyswllt i’ch galluogi i ddod i gysylltiad
Newyddion
Gwaharddiad Traffig Trwodd Dros Dro - Croesfan Wastad Y Fali 11:00yh 28/9/24 - 8:00yb 29/9/24
Rhybudd Cyhoeddus - Sedd Wag Ward y Gorllewin
Rhybudd o Fwriad - Croesfan Wastad Y Fali
Cynllun - Croesfan Wastad Y Fali
Ffurflen Enwebu Ward Gorad (MS Word)
Ffurflen Enwebu Ward Gorad (Adobe Reader PDF)
Ffurflen Enwebu Ward Gorllewin (MS Word)
Ffurflen Enwebu Ward Gorllewin (Adobe Reader PDF)
Cyfyngiad Cyflymder Dros Dro: A5025 - Mawrth 4ydd - 7fed 2024
Rhybudd o Fwriad: Gwaharrdiad Traffig Trwodd Dros Dro (Croefan Y Fali)
Rybudd o Fwriad: Cau Llwybr Troed Dros Dro - Llwybr Troed Rhif 1 Y Fali | MAP 1 | MAP 2
Rhybudd Cyhoeddus: Adolygu Rhanbarthau Pleidleisio a Lleoedd Pleidleisio
Gwasanaeth Sul y Cofio
Bydd Gwasanaeth Sul u Cofio yn cael ei gynnal yn Eglwys St Mihangel. am 11.15 yb ar Dydd Sul 12fed Tachwedd 2023 gyda gwasanaeth ym mynwent Ynys Wen i ddilyn.
Bydd gwasanaeth yn cael ei gynnal hefyd yn Ysgol Gymuned Y Fali am 9.15 bore Gwener 10fed Tachwedd 2023.
Hysbysiad o Gyfethol - Ward Gorad
Sedd Gwag - Swydd Cynghorydd - Ward Gorad
Hysbysiad am Gwblhau Archwiliad am y flwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2023
Bysiau Arriva - adolygiadau i’r rhwydwaith bysiau
Rhybudd o Fwriad: Gwahardd Traffig Trwodd Dros Dro - Lon Plas Llanfigael, Bodedern
Rhybudd Cyfethol Cyngor Cymuned Y Fali
Hysbysiad am Gwblhau Archwiliad 2021-22
Crynodeb o'r prif gymorth ariannol, ffynonellau gwybodaeth a'r cymorth diweddaraf sydd ar gael.
Cyhoeddi cyfrifon archwiliedig ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022
Mae rheoliad 15 (5) o Reoliadau Cyfrifon ac archwilio (Cymru) 2014 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol, erbyn 30 Medi 2022, i Gyngor Cymuned y Fali gyhoeddi ei ddatganiadau cyfrifyddu ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022 ynghyd ag unrhyw dystysgrif, barn neu adroddiad a gyhoeddwyd, a roddwyd neu a wnaed gan yr Archwilydd Cyffredinol.
Mae'r datganiadau cyfrifyddu ar ffurf ffurflen flynyddol wedi'u cyhoeddi ar wefan y Cyngor. Fodd bynnag, cyhoeddir y cyfrifon cyn i'r archwiliad ddod i ben gan nad yw'r Archwilydd Cyffredinol wedi cyhoeddi barn archwilio eto.
Hysbysiad o Gyfethol - Ward y Gorad - Medi 2022
12/08/2022 - Sedd Gwag - Swydd Cynghorydd
Rhybudd o Fwriad: Gwahardd traffig trwodd dros dro tu allan i 25-27 Bryn Moryd, Y Fali
Hysbysiad Archwilio
Hysbysiad o Gyfethol - Ward y Pentref - Mai 2022
Hysbysiad o Gyfethol - Cymuned (Ward) Gorllewinol - Mai 2022
RHYBUDD ETHOLIAD
ETHOLIAD CYNGHORWYR TREF / CYMUNED
YN EISIAU: Aelodau Ieuenctid Ar Cyngor Cymuned Y Fali :: Gwybodaeth Ychwannegol
Hysbysiad am gwblhau archwiliad am y flwyddyn yn gorffen 31 mawrth 2021
GLANHAD TRAETH GYMUNEDOL, DYDD SUL 13 CHWEFROR 2.00yp, TRAETH GORAD
Ar ddydd Sul 13eg o Chwefror am 2yp fe fydd glanhad traeth gymunedol ar Draeth Gorad. Bydd y digwyddiad yn cael ei gefnogi gan Syrffwyr yn Erbyn Carthion. Man cyfarfod glanhau'r traeth yw'r traeth ar ddiwedd Lon y Traeth.
Mae croeso i chi ymuno.
CASGLU SBWRIEL PARC MWD, Y FALI - DYDD SUL, Hydref 10fed am 3.00 y.h.
Mae Cyngor Cymuned y Fali yn falch o gyhoeddi y bydd Cadwch Fali Yn Daclus yn cynnal casgliad sbwriel ym Mharc Mwd ddydd Sul, Hydref 10fed am 3.00 y h.
Hoffem ddiolch i chi am eich ymdrechion parhaus i helpu i gadw'r pentref a safleoedd cymunedol yn rhydd o sbwriel.
Adroddiad Flynyddol 2020-2021
Cyhoeddi cyfrifon archwiliedig ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021
Hysbysiad archwilio
Hysbysiad pennu’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr (Blwyddyn ariannol yn dod i ben ar 31 March 2021)
PARC MWD - HYSBYSEB O WAITH AR Y LLWYBRAU
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi trefnu gwaith wynebu ar y llwybr fel y dangosir ar y map cysylltiedig.
Mae’r gwaith wedi ei raglennu i gychwyn ar 25 Mehefin a bydd yn cymryd 7-10 diwrnod. Bydd rhaid cau’r llwybr dros gyfnod y gwaith.
Cynghrair Cymunedol / Medrwn Mon
Ymunwch â Cynhrair Cymunedol/ Mendrwn Mon i drafod cynlliniau newydd a chyffroes ar gyfer y flwyddyn sydd i dod. Rhowch glic yma am fwy o fanylion.
Gwarchodfa Bws Llanynghenedl
'Rydym yn falch o hysbysebu fod gwarchodfa bws newydd wedi ei osod yn Llanynghenedl - engraifft arall o weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Ynys Mon er budd y gymuned.
Cynllun Atal Llifogydd Y Fali
Os gwelwch yn dda, dilynwch y linc er mwyn derbyn gwybodaeth ychwannegol ar Ddarpar Gynllun Atal Llifogydd y Fali ar gyfer ardaloedd Station Road a Field Street.
Er gwybodaeth mae posibilrwydd y bydd y rhan bellaf o'r maes parcio cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio ar gyfer storio gan y contractwyr a benodwyd pe byddai'r cynllun yn symud ymlaen.
Rhybudd o Ganlyniad Archwiliad - 19-11-2020
Ffurflen flynyddol 31-03-20
Adroddiad Materion yn Codi 31-03-20
Cyhoeddi cyfrifon archwiliedig ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2020
Mae rheoliad 15 (5) o Reoliadau Cyfrifon ac archwilio (Cymru) 2014 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol, erbyn 30 Medi 2020, i Cyngor Cymuned y Fali gyhoeddi ei ddatganiadau cyfrifyddu ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2020 ynghyd ag unrhyw dystysgrif, barn neu adroddiad a gyhoeddwyd, a roddwyd neu a wnaed gan yr Archwilydd Cyffredinol.
Mae'r datganiadau cyfrifyddu ar ffurf ffurflen flynyddol wedi'u cyhoeddi ar wefan y Cyngor. Fodd bynnag, cyhoeddir y cyfrifon cyn i'r archwiliad ddod i ben. Oherwydd effaith COVID-19, nid yw'r Archwilydd Cyffredinol wedi cyhoeddi barn archwilio eto.
Sbwriel a baeddu cŵn ym Mharc Mwd
Mae Parc Mwd yn ased gwerthfawr iawn i gymuned y Fali ac mae yn siomedig fod rhai o bobl sydd yn ei ddefnyddio y dewis i adael sbwriel o gwmpas y parc ynghyd a baw cŵn.
Byddwn yn gofyn yn barchus i ddefnyddwyr y parc sicrhau ei bod yn rhoi sbwriel/ baw ci yn y biniau ger y pafiliwn neu, ar adegau pan mae y biniau yn llawn, mynd a fo adref gyda nhw.
Diolch yn fawr.
Arolwg o'r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Ynys Mon - cyfle i gynnig sylwadau
Rhybudd o Ganlyniad Archwiliad ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31-03-19
Hysbysiad o bennu dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr - Y flwyddyn sy'n diweddu 31 Mawrth 2019
Y mae rhybudd yn cael ei roddi bod yr archwiliad ar gyfer y flwyddyn yn diweddu ar 31 Mawrth 2018 wedi ei gwblhau ar 27 Medi 2018 ac mae'r cyfrifon yn awr ar gael i etholwyr lIeol eu harchwilio yn unol ag Adran 29 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. [ fwy o fanylion ]
HANES PENTREF FALI
Y diweddar Barchedig R. Hughes, Coedlys, Fali ddechreuodd ymchwilio i darddiad enw’r pentref. Gwnaed yr ymchwil yn ystod y flwyddyn lle roedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn lleol.
Dechreuodd y Parchedig Hughes ei ymchwil trwy edrych ar hanes y plwyf. Plwyf Llanynghenedl ydy’r plwyf a dyma’r enw a roed ar y Cyngor Cymuned hyd at rhyw ychydig flynyddoedd yn ôl, er bod pentref y Fali cryn dipyn yn fwy an phentref Llanynghenedl. Sant oedd Enghenedl a oedd yn byw yn y bumed ganrif a’r farn yw bod yr ail eglwys yn Llanynghenedl wedi ei hadeiladu ar safle’r eglwys gyntaf. Mae’r ail eglwys bellach wedi ei dymchwel ac fe symudwyd y meini i Awyrlu’r Fali ar gyfer adeiladu’r eglwys yno.
Wrth gyfeirio sawl gwaith at y Fali, bu i Owen Jones, ‘Melidwy Môn’ ddatgan mai ‘Faelwy’ oedd enw’r pentref ac nid Valley fel yr adwaenir ef heddiw. Datganodd Robert Pierce, Criglas, a fu farw yn 1881 yn 86 oed, henadur a gweinyddwr lleol, wrth adeiladu y ffordd o Borthaethwy i Gaergybi, pellter o rhyw ddeunaw milltir a hanner fe ddaethpwyd cyn belled â’r cob. Yno daethant ar draws bryn bychan y bu rhaid torri trwyddo. Ar naill ochr y toriad hwn roedd mannau a elwid yn ‘Glan-Môr Tŷ Coch’ ac ar yr ochr ogleddol, man a adwaenir heddiw fel Gorad, roedd tir a elwid yn Castell Llyffant.
Go brin bod Telford na’i weithwyr yn gallu ynganu’r enwau hyn ac ar ôl cwblhau’r toriad bu iddynt alw’r llecyn yn ‘Fali’ yn unol â’i ddaearyddiaeth newydd. Yn ddiweddarach adwaenid y man hwn fel ‘Hen Fali’ a’r prif bentref yn ‘Fali’. Mae hyn yn rhoi tarddiad yr enw o gwmpas y flwyddyn 1822.
Crynodeb o “Valley, memories of a growing village” gyda chaniatâd J. Alun Shorney