Agoriad Swyddogol Cwrt Pêl-fasged ym Mharc Mwd
Croesawodd Cyngor Cymuned Y Fali drigolion lleol, dydd Sadwrn 24 Mai 2025, i’r agoriad swyddogol y Cwrt Pêl-fasged ym Mharc Mwd.
Braint oedd gwahodd Kieran Jones, pencampwr rhyngwladol pêl-fasged ag athletau mewn cadair olwyn a’i frawd Ryan hefyd yn chwaraerwr pêl-fasged pen ei gamp i dorri’r ruban ag agor y cwrt i’r gymuned. Y ddau frawd oedd yn gyfrifol i hau’ r syniad adeliadu’r cwrt yn y lle cyntaf.
Dywedodd Kieran “Sport has changed my life and it’s important that we start at grass root level”
Dywedodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Neil Tuck: “Mae’r cwrt pêl-fasged yn symbol o ymrwymiad cyffredin ein cymuned i hyrwyddo ffyrdd o fyw iach a gweithgar. Mae’n adlewyrchu gweledigaeth ein partneriaid, haelioni ein harianwyr, a gwaith caled pawb a helpodd i wireddu’r prosiect hwn. Gobeithiwn y bydd yn dod yn lle parhaol lle gall cenedlaethau’r dyfodol ddatblygu eu sgiliau, gwella eu lles, a bod yn falch o’r hyn y gellir ei gyflawni trwy gydweithio.”
Aeth ymlaen i fynegi diolch diffuant y Cyngor i’r holl randdeiliaid a wnaeth y prosiect yn bosibl trwy eu cefnogaeth hael — gan gynnwys cyllid grant gan Wobrau i Bawb Loteri Genedlaethol Cymru, Ymddiriedolaeth Elusen Ynys Môn, Dŵr Cymru, a Chynghrair Bro Llynnoedd. Estynnwyd diolch arbennig hefyd i G L Jones, adeiladwyr y prosiect, ac yn enwedig i Lagan Aviation Infrastructure Ltd., a ddarparodd yr holl seilwaith yn rhad ac am ddim fel rhodd i’r gymuned — cyfraniad hanfodol a sicrhaodd lwyddiant y prosiect. Derbyniodd Kieran, Ryan a Darren a’r ran Lagan Aviation dystysgrifau am eu cyfraniad gwerthafwr i’r gymuned a balchder bro.
Darparodd Swish Coaching Ltd sesiwn hyfforddi ar gyfer chwaraewyr ifanc i hyrwyddo diddordeb yn y gêm.
Ychwanegodd y Cynghorydd Sir Ken Taylor “Mae’r Cyngor yn falch o ddarparu’r adnodd hwn i’r gymuned ac yn edrych ymlaen at weld eraill fel Kieran a Ryan yn elwa o chwarae a chwaraeon.”