Teyrnged i’r Cynghorydd Ken TaylorMae’r Cyngor yn nodi gyda thristwch mawr farwolaeth sydyn Ken Taylor, aelod o Gyngor Cymuned Fali.
Ymunodd â’r Cyngor Cymuned ym Mehefin 2013, gan wasanaethu’n ymroddedig. Etholwyd ef yn Is-gadeirydd yn 2018 ac yn Gadeirydd am ddau dymor yn 2019 a 2020.
Roedd yn ymrwymedig i’w gymuned ac yn awyddus i hyrwyddo lles trigolion Fali ac i gefnogi’r iaith Gymraeg ar bob cyfle. Mae’r Cyngor yn cydnabod ei gyfraniad pwysig dros y blynyddoedd.
Estynnir cydymdeimlad dwysaf â’i blant, ei deulu a’i ffrindiau. Bydd ei golled yn cael ei theimlo’n fawr yng Nghyngor Cymuned y Fali.
Neges gan y Cadeirydd:
“Bydd y rhai a fu’n gweithio gydag ef yn cofio ei angerdd, ei uniongyrchedd a’i barodrwydd i sefyll dros ei gymuned.
Roedd ei gefnogaeth i’r iaith yn rhan bwysig o’i gyfraniad i’r Cyngor, ac yn adlewyrchu ei falchder yn ei hunaniaeth, ei dreftadaeth a’i ddiwylliant lleol.
Bydd ei flynyddoedd lawer o wasanaeth, ei ymrwymiad i’r gymuned a’i gyfraniad i fywyd cyhoeddus yn cael eu cofio gyda diolchgarwch.
Ar ran y Cyngor, estynnwn ein cydymdeimlad diffuant â theulu Ken, ei ffrindiau, a phawb a’i hadnabu yn ystod y cyfnod trist hwn.”
Mae’r Cyngor yn nodi gyda thristwch mawr farwolaeth sydyn Ken Taylor, aelod o Gyngor Cymuned Fali.