Rhybudd Archwiliad

Hysbysiad o benodi o’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr
Cyngor Cymuned y Fali
Blwyddyn ariannol sy’n dod i ben 31 Mawrth 2026

1. Dyddiad cyhoeddi 01/07/2026

2. Bob blwyddyn mae’r cyfrifon blynyddol yn cael eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae gan unrhyw berson sydd â diddordeb gyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac ati sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gweithio ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2026, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol ar gais i:

Anwen Jones (Clerc a Swyddog Ariannol Cyfrifol)
10 Gorffwysfa, Lon Fain, Dwyran, Ynys Môn, LL61 6YJ
NEU trwy e-bost at: clerk@valley-community-council.wales

rhwng oriau 10:00 a 16:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener
gan ddechrau 06 Gorffennaf 2026
ac yn gorffen ar 31 Gorffennaf 2026

3. 14 Medi 2026, hyd nes y bydd yr archwiliad wedi’i gwblhau, mae gan Etholwyr
Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:

yr hawl i holi’r Archwilydd Cyffredinol am y cyfrifon.

yr hawl i fynychu gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a gwneud gwrthwynebiadau i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf. Rhaid rhoi copi o’r hysbysiad ysgrifenedig i’r cyngor hefyd.

Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy: Archwiliadau Cynghorau Cymuned, Archwilio Cymru, 1 Capital Quarter, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ neu drwy e-bost yn communitycouncilaudits@audit.wales.

Mae’r archwiliad yn cael ei gynnal o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Hawliau etholwyr o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004
Yn ôl y gyfraith, gall unrhyw un archwilio cyfrifon y cyngor. Os ydych wedi
cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cynghorau lleol, mae gennych chi (neu
rywun sy’n gweithredu ar eich rhan) yr hawl hefyd i ofyn cwestiynau i’r
Archwilydd Cyffredinol am y cyfrifon ac i godi gwrthwynebiadau ffurfiol.

Arolygu’r cyfrifon
Unwaith y bydd y cyngor wedi cwblhau ei gyfrifon, rhaid iddo hysbysebu eu bod
ar gael i’w harchwilio. Ar ôl rhoi rhybudd rhesymol, gallwch archwilio’r cyfrifon a’r
dogfennau ategol am 20 diwrnod gweithio. Gellir gofyn am gopïau, er y gallai fod
tâl copïo am hyn.

Gofyn cwestiynau i’r archwilydd
Dim ond am y cyfrifon sy’n destun archwiliad y gellir gofyn cwestiynau. Nid oes
rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ateb cwestiynau am bolisïau, penderfyniadau neu
weithdrefnau’r cyngor oni bai eu bod yn ymwneud yn uniongyrchol â’r cyfrifon,
ac nid oes rhaid iddo ddweud a yw rhywbeth yn gyfreithlon neu’n rhesymol.

Gwrthwynebu’r cyfrifon
Os ydych chi’n credu bod y cyngor wedi gwario arian yn anghyfreithlon, neu fod
rhywun wedi achosi colled ariannol yn fwriadol neu drwy ymddygiad anghyfrifol,
gallwch wrthwynebu. Rhaid gwneud gwrthwynebiadau yn ysgrifenedig i’r
Archwilydd Cyffredinol, egluro’r rhesymau’n glir, a rhaid anfon copi at y cyngor
hefyd. Bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn penderfynu pa gamau, os o gwbl, i’w
cymryd. Mewn rhai achosion, efallai y byddwch yn apelio i’r llysoedd. Gallwch
hefyd wrthwynebu os ydych chi’n credu bod problem yn y cyfrifon y dylid ei
adrodd yn gyhoeddus er budd y cyhoedd. Ni ellir defnyddio’r broses hon i wneud
cwynion neu hawliadau personol.

Ffyrdd eraill o godi pryderon
Yn hytrach na gwneud gwrthwynebiad ffurfiol, gallwch ddarparu gwybodaeth i’r
Archwilydd Cyffredinol os ydych chi’n credu bod gwallau yn y cyfrifon neu
bryderon am wastraff neu aneffeithlonrwydd. Nid oes unrhyw weithdrefnau na
dyddiadau cau penodol ar gyfer gwneud hyn.

Gwybodaeth bwysig
Mae’r gost o ddelio â chwesynau a gwrthwynebiadau yn cael ei dalu gan
drethdalwyr lleol. Dim ond materion sydd er budd y cyhoedd y bydd yr
Archwilydd Cyffredinol yn ymchwilio. Os byddwch yn mynd â mater i’r llys, efallai
y bydd yn rhaid i chi dalu eich costau eich hun.

Cysylltwch
Cysylltwch ag Archwilydd Cyffredinol Cymru
Archwiliadau Cyngor Cymuned,
Archwilio Cymru,
1 Capital Quarter,
Stryd Tyndall,
Caerdydd CF10 4BZ

 

Rhybudd Archwiliad

Comments for this post are closed.