Cronfa Cydlyniant Cymunedol 2025/26

Mae Cronfa Cydlyniant Cymunedol Gogledd Orllewin Cymru yn gyfle i’ch mudiad wneud cais am grant o rhwng £500 a £5000 ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau sy’n dod a gwahanol gymunedau ynghyd o fewn Gwynedd, Ynys Mon a Chonwy. Mae pecynnau cais a gwybodaeth ar gael tan 13/06/25 drwy e-bostio cydlyniantcymunedol@ynysmon.llyw.cymru

 

Agoriad Swyddogol Cwrt Pêl-fasged ym Mharc Mwd

Croesawodd Cyngor Cymuned Y Fali drigolion lleol, dydd Sadwrn 24 Mai 2025, i’r agoriad swyddogol y Cwrt Pêl-fasged ym Mharc Mwd.

Braint oedd gwahodd Kieran Jones, pencampwr rhyngwladol pêl-fasged ag athletau mewn cadair olwyn a’i frawd Ryan hefyd yn chwaraerwr pêl-fasged pen ei gamp i dorri’r ruban ag agor y cwrt i’r gymuned. Y ddau frawd oedd yn gyfrifol i hau’ r syniad adeliadu’r cwrt yn y lle cyntaf.

Dywedodd Kieran “Sport has changed my life and it’s important that we start at grass root level”

Dywedodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Neil Tuck: “Mae’r cwrt pêl-fasged yn symbol o ymrwymiad cyffredin ein cymuned i hyrwyddo ffyrdd o fyw iach a gweithgar. Mae’n adlewyrchu gweledigaeth ein partneriaid, haelioni ein harianwyr, a gwaith caled pawb a helpodd i wireddu’r prosiect hwn. Gobeithiwn y bydd yn dod yn lle parhaol lle gall cenedlaethau’r dyfodol ddatblygu eu sgiliau, gwella eu lles, a bod yn falch o’r hyn y gellir ei gyflawni trwy gydweithio.”

Aeth ymlaen i fynegi diolch diffuant y Cyngor i’r holl randdeiliaid a wnaeth y prosiect yn bosibl trwy eu cefnogaeth hael — gan gynnwys cyllid grant gan Wobrau i Bawb Loteri Genedlaethol Cymru, Ymddiriedolaeth Elusen Ynys Môn, Dŵr Cymru, a Chynghrair Bro Llynnoedd. Estynnwyd diolch arbennig hefyd i G L Jones, adeiladwyr y prosiect, ac yn enwedig i Lagan Aviation Infrastructure Ltd., a ddarparodd yr holl seilwaith yn rhad ac am ddim fel rhodd i’r gymuned — cyfraniad hanfodol a sicrhaodd lwyddiant y prosiect. Derbyniodd Kieran, Ryan a Darren a’r ran Lagan Aviation dystysgrifau am eu cyfraniad gwerthafwr i’r gymuned a balchder bro.

Darparodd Swish Coaching Ltd sesiwn hyfforddi ar gyfer chwaraewyr ifanc i hyrwyddo diddordeb yn y gêm.

Ychwanegodd y Cynghorydd Sir Ken Taylor “Mae’r Cyngor yn falch o ddarparu’r adnodd hwn i’r gymuned ac yn edrych ymlaen at weld eraill fel Kieran a Ryan yn elwa o chwarae a chwaraeon.”

 

 

 

Lansio’r Cwrt Pêl-fasged newydd

 

Bydd y Cwrt Pêl-fasged newydd yn cael ei lansio’n swyddogol am 1pm ar ddydd Sadwrn 24/5/25 ym Mharc Mwd, y Fali. Bydd Kieran a Ryan Jones yn lansio’r Cwrt yn yn swyddogol a mae Sion Parry o Swish Coaching Ltd wedi trefnu i ddau hyfforddwr a thîm o Holyhead Celts (15 chwaraewr) ddarparu sesiynau hyfforddi i unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan! Bydd diodydd ar gael.

Cyfle hefyd i ddweud eich dweud – croeso i bawb!

 

 

 

 

 

 

 

 

Y GENEDL YN DIOLCH – DIWRNOD VE

Gwasanaeth diolchgarwch i goffau 80 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd 8 Mai 2025

Gwasanaeth hwyrol weddi Dydd Iau 08 Mai 2025 am 7yh yn Eglwys Sant Mihangel, Y Fali gyda gwasanaeth byr a gosod torch i ddilyn tua 7.45yh wrth y Cofeb Ryfel ym mynwent Ynys Wen, Y Fali.