RHYBUDD O FWRIAD – Croesfan Wastad Y Fali

RHYBUDD O FWRIAD

DEDDF RHEOLI TRAFNIDIAETH FFYRDD,1984 ADRAN 14(1) FEL Y’I DIWYGIWYD GAN DDEDDF TRAFNIDIAETH FFYRDD (CYFYNGIADAU DROS DRO), 1991 GORCHYMYN CYNGOR SIR YNYS MÔN / ISLE OF ANGLESEY COUNTY COUNCIL (GWAHARDD TRAFFIG TRWODD DROS DRO) (CROESFAN WASTAD Y FALI) RHIF 2 2025.

Daw’r Gorchymyn i rym ar 27ain Medi 2025 a bydd yn parhau mewn grym am gyfnod na fydd yn fwy na 4 wythnos neu hyd nes y cwblheir y gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd, pa un bynnag fyddo gyntaf. Ar hyn o bryd, rhagwelir y bydd y gwaith yn digwydd dros nos rhwng 10:30yh ar 27ain Medi 2025 a 8:20yb ar 28ain Medi 2025.

Notice of Intention – Valley Level Crossing

Bwriad i gau Ffordd Gorad – Medi 22-26

BWRIAD I GAU FFORDD GORAD, Y FALI A GWYRIAD ARFAETHEDIG – 22 MEDI TAN 26 MEDI 2025

Annwyl Mrs Sheldon,

Ysgrifennaf atoch ar ran National Grid Electricity Transmission i roi gwybod i chi fod angen i ni wneud gwaith cloddio ar Ffordd Gorad, y Fali. Mae’r gwaith yn ofynnol yn rhan o’n prosiect i adeiladu is-orsaf newydd ym Mhenrhos ac i gadarnhau union leoliad piblinell nwy.

Er mwyn cwblhau’r gwaith cloddio’n ddiogel, bydd angen cau rhan o Ffordd Gorad i draffig o 22 Medi 2025 tan 26 Medi 2025, a bydd modurwyr yn cael eu dargyfeirio i ddefnyddio’r A5025. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd preswylwyr yn gallu cyrraedd eiddo oddi ar Ffordd Gorad gan ddefnyddio llwybr y gwyriad, a bydd mynediad i gerddwyr a beicwyr yn cael ei gynnal.

Disgwylir i’r gwaith bara pum niwrnod, a bydd preswylwyr yn gallu cyrraedd eu heiddo yn y ffordd arferol o 27 Medi 2025 ymlaen.

Mae angen cau’r ffordd oherwydd ystyrir nad yw cynlluniau hanesyddol yn dangos lleoliad y biblinell nwy o dan Ffordd Gorad yn iawn. Credir bod y biblinell wedi’i gosod yn ddyfnach nag y mae’r mapiau sydd ar gael yn awgrymu. Bydd ein tîm yn cloddio rhan o’r ffordd yn ofalus i gadarnhau safle’r biblinell cyn ei hadfer yn llwyr.

Byddwn yn sicrhau bod y gymuned leol yn gwbl ymwybodol o’r gwaith hwn ymlaen llaw. Bydd llythyr yn cael ei ddosbarthu i oddeutu 2,000 o breswylwyr sy’n byw agosaf i Ffordd Gorad, yn rhoi’r wybodaeth uchod iddynt ac yn darparu ein manylion cyswllt uniongyrchol os hoffent drafod ymhellach. Bydd cynllun yn cael ei gynnwys sy’n amlinellu lleoliad y gwaith a llwybr arfaethedig y gwyriad (mae copi o’r cynllun hwn wedi’i atodi i’r neges e-bost). Bydd datganiad i’r wasg yn cael ei ryddhau hefyd i siopau lleol i hysbysu’r gymuned ehangach.

Mae National Grid yn gweithio’n agos gyda Chyngor Cymuned y Fali ynglŷn â’r gwaith hwn. Mae digwyddiadau galw heibio’n cael eu trefnu hefyd lle gall y gymuned leol drafod y gwaith hwn ymhellach a gofyn unrhyw gwestiynau. Mae cwmnïau bysiau ac ysgolion lleol wedi cael gwybod am y gwaith hwn trwy Adran Briffyrdd Cyngor Sir Ynys Môn.

Deallwn y bydd y gwaith hwn yn tarfu ychydig ar y gymuned leol, ac ymddiheurwn yn ddiffuant ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra a achosir. Bydd ein tîm yn gweithio i gwblhau’r gweithgareddau hyn mor effeithlon a diogel â phosibl.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech drafod y gwaith arfaethedig ymhellach gyda’n tîm prosiect, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy anfon neges e-bost at penrhos@nationalgrid.com neu drwy ffonio 0800 066 8941.

Diolch am eich ystyriaeth.

Yn gywir,

 

Elliot Hobbs

Rheolwr Prosiect Arweiniol – Cysylltiadau Cwsmeriaid (Gogledd)

National Grid Electricity Transmission

Gorad Road Closure – Infographic

Gwreiddiadau Môn Roots

Mae Gwreiddiadau Môn Roots yn bartneriaeth sy’n ceisio rhoi terfyn ar Ddigartrefedd Cefn Gwlad ar Ynys Môn drwy fynd i’r afael a’r gwir achosion.

Ydy chi mewn dyled o ran rhent neu’n methu taliadau morgais? Ydych chi’n wynebu dyledion, yn brwydro i geidio cynhesu eich eiddo? Yduch chi eisiau cefnogaeth gyda’ch iechyd meddwl? Ydych chi’n cael problemau gyda’ch cartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref? A yw eich perthynas yn chwalu? Ydych chi’n ymdrechu i allu ffordio sioa bwyd?

Eisiau bod yn Gynghorydd Cymuned?

 

 

 

Ydych chi eisiau bod yn Gynghorydd Cymuned yn y Fali?

Mae cynghorwyr yn wirfoddolwyr sy'n gweithio gyda'i gilydd i wasanaethu'r gymuned. Eich tasg chi fyddai dod â materion lleol i sylw'r cyngor, a'i helpu i wneud penderfyniadau ar ran y gymuned leol.

Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at y clerc ar valleycommunitycouncil@gmail.com

neu cwblhewch y Ffurflen Enwebu a'i dychwelyd at y clerc erbyn 31/8/25