RHYBUDD AM WAITH CYNHALIOL – YNYS WEN

Hoffai Cyngor Cymuned y Fali hysbysu trigolion ac ymwelwyr y bydd gwaith gwella draenio yn cael ei gynnal ym Mynwent Ynys Wen yn ystod yr wythnos sy’n dechrau Dydd Llun, 27 Hydref 2025.

Bwriad y gwaith hwn yw gwella cyflwr a hygyrchedd y tir, yn enwedig yn ystod cyfnodau o dywydd gwlyb. Dros amser, mae dŵr arwynebol wedi effeithio ar rairhannau o’r fynwent, ac mae’r prosiect hwn yn anelu at sicrhau bod y safle’n parhau’n ddiogel, wedi’i gynnal yn dda acyn hygyrch i bawb.

Mae’r Cyngor yn cydnabod mai safle sensitif yw hwn, ac fe wneir pob ymdrechi leihau unrhyw darfu tra bydd y gwaith yn cael ei wneud. Bydd mynediad i’r fynwent ar agor lle bo’n bosibl, ond gofynnir i ymwelwyr fod yn ofalus wrth symud o amgylch yr ardaloedd lle mae contractwyr yn gweithio.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Clerc

RHYBUDD AM WAITH CYNHALIOL

Sul y Cofio yn Y Fali

Dydd Sul, Tachwedd 9fed, cynhelir gwasanaeth Coffa yn Eglwys Sant Mihangel, Y Fali, am 11:15 y bore.

Dilynir hyn gyda gwasanaeth byr a seremoni gosod torchau ym Mynwent Ynys Wen, Y Fali, am 12:30yp.

Mae croeso i bawb fynychu.

FAN YMGYSYLLTU CYMUNEDOL YR HEDDLU

Dewch draw i gyfarfod eich Tîm Plismona Cymdogaethau.

  • Mae Gogledd Cymru’n Siarad yn rhoi cyfle i drigolion ein
    hysbysu o’r materion sydd bwysicaf i’w cymunedau lleol.
  • Ymunwch â’r cynllun Rhybudd Cymunedol Gogledd
    Cymru AM DDIM.

Dydd Mercher 8 Hydref;
Llanfechell (Senotaff) – 9am
Benlleth (Maes Parcio Spar) – 12pm
Pentraeth (Nant y Felin) – 2pm

Dydd Iau 9 Hydref;
Fali (Maes Parcio Canolfan Siopa) – 9am
Rhosneigr (Maes Parcio’r Llyfrgell) – 12pm
Llanfairpwll (Ty’n Caeau a Maes Parcio Pringles) – 3pm

Dydd Gwener 10 Hydref;
Gaerwen (Maes Parcio Canolfan Esceifiog) – 1pm
Talwrn (Maes Parcio Neuadd y Pentref) – 3pm
Gwalchmai (Maes Meurig) – 4pm

91738 Engagement Van A3 Poster (08.09)