HYSBYSIAD O GYFETHOL – Ward Y Pentref

HYSBYSIAD O GYFETHOL
Adran 116 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

RHODDIR HYSBYSIAD TRWY HYN fod Cyngor Cymuned Y Fali bwriadu Cyfethol 1 aelod i lenwi’r sedd gwag sydd ar gael ar gyfer Cynghorydd yng Nghymuned (Ward) Y Pentref.

Ceisir datganiadau o ddiddordeb gan aelodau o’r cyhoedd sy’n cyflawni’r meini prawf canlynol ac sydd â diddordeb mewn cynrychioli eu cymuned ar y Cyngor Cymuned dywededig. Rhaid bod yn ddinesydd Prydain, y Gymanwlad, Iwerddon neu’r Undeb Ewropeaidd ac yn 18 oed neu’n hŷn, ac yn cyflawni o leiaf un o’r meini prawf canlynol:

  • wedi’ch cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal a enwir uchod; neu
  • yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf, wedi bod yn berchennog neu’n denant tir neu safle arall yn y gymuned a enwir uchod; ne
  • wedi bod â’ch prif neu’ch unig weithle yn ystod y 12 mis diwethaf yn y gymuned a enwir uchod; neu
  • rydych wedi byw yn y Gymuned, neu o fewn 4.8 cilometr ohoni yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf.

Os ydych yn dymuno cael eich ystyried i gael eich cyfethol ar gyfer y sedd gwag, neu’n dymuno cael rhagor o wybodaeth ynghylch rôl Cynghorwyr Cymuned, cysylltwch â’r Clerc y Cyngor Cymuned ar/yn clerk@valley-community-council.wales erbyn 24 GORFFENNAF 2026.

Mae rhai pobl penodol wedi’u hanghymhwyso rhag ymgeisio, yn eu plith swyddogion cyflogedig y Cyngor, unrhyw un sy’n destun gorchmynion cyfyngu methdalwyr a’r rheiny sy’n destun dedfrydau o garchar yn ddiweddar. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau ei bod yn gymwys i sefyll.

Dyddiedig: 6 Gorffennaf 2026

Rhybudd o Fwriad – Cob Stanley

RHODDIR DRWY HYN RYBUDD fod Cyngor Sir Ynys Môn/Isle of Anglesey County Council yn bwriadu dim llai na saith niwrnod ar ôl dyddiad y rhybudd hwn wneud Gorchymyn bydd yn gwahardd dros dro pob traffig cerbydol rhag gyrru ar gyflymder heb fod yn fwy na 20mya ar hyd Cob Stanley, Ffordd Caergybi (A5) Y Fali.

Mae angen y Gorchymyn i hwyluso gwaith gosod cebl tanddaearol.

Daw’r Gorchymyn i rym ar 18fed Mai 2026 a bydd yn parhau mewn grym hyd nes 19eg Mawrth 2027.

Rhybudd o fwriad – Cob Stanley

Cynllun – Cob Stanley

RHYBUDD AM WAITH CYNHALIOL – YNYS WEN

Hoffai Cyngor Cymuned y Fali hysbysu trigolion ac ymwelwyr y bydd gwaith gwella draenio yn cael ei gynnal ym Mynwent Ynys Wen yn ystod yr wythnos sy’n dechrau Dydd Llun, 27 Hydref 2025.

Bwriad y gwaith hwn yw gwella cyflwr a hygyrchedd y tir, yn enwedig yn ystod cyfnodau o dywydd gwlyb. Dros amser, mae dŵr arwynebol wedi effeithio ar rairhannau o’r fynwent, ac mae’r prosiect hwn yn anelu at sicrhau bod y safle’n parhau’n ddiogel, wedi’i gynnal yn dda acyn hygyrch i bawb.

Mae’r Cyngor yn cydnabod mai safle sensitif yw hwn, ac fe wneir pob ymdrechi leihau unrhyw darfu tra bydd y gwaith yn cael ei wneud. Bydd mynediad i’r fynwent ar agor lle bo’n bosibl, ond gofynnir i ymwelwyr fod yn ofalus wrth symud o amgylch yr ardaloedd lle mae contractwyr yn gweithio.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Clerc

RHYBUDD AM WAITH CYNHALIOL

Sul y Cofio yn Y Fali

Dydd Sul, Tachwedd 9fed, cynhelir gwasanaeth Coffa yn Eglwys Sant Mihangel, Y Fali, am 11:15 y bore.

Dilynir hyn gyda gwasanaeth byr a seremoni gosod torchau ym Mynwent Ynys Wen, Y Fali, am 12:30yp.

Mae croeso i bawb fynychu.