Gwreiddiadau Môn Roots

Mae Gwreiddiadau Môn Roots yn bartneriaeth sy’n ceisio rhoi terfyn ar Ddigartrefedd Cefn Gwlad ar Ynys Môn drwy fynd i’r afael a’r gwir achosion.

Ydy chi mewn dyled o ran rhent neu’n methu taliadau morgais? Ydych chi’n wynebu dyledion, yn brwydro i geidio cynhesu eich eiddo? Yduch chi eisiau cefnogaeth gyda’ch iechyd meddwl? Ydych chi’n cael problemau gyda’ch cartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref? A yw eich perthynas yn chwalu? Ydych chi’n ymdrechu i allu ffordio sioa bwyd?

Eisiau bod yn Gynghorydd Cymuned?

 

 

 

Ydych chi eisiau bod yn Gynghorydd Cymuned yn y Fali?

Mae cynghorwyr yn wirfoddolwyr sy'n gweithio gyda'i gilydd i wasanaethu'r gymuned. Eich tasg chi fyddai dod â materion lleol i sylw'r cyngor, a'i helpu i wneud penderfyniadau ar ran y gymuned leol.

Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at y clerc ar valleycommunitycouncil@gmail.com

neu cwblhewch y Ffurflen Enwebu a'i dychwelyd at y clerc erbyn 31/8/25

HYSBYSIAD CYFETHOL

HYSBYSIAD CYFETHOL
Adran 116 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

RHODDIR HYSBYSIAD TRWY HYN fod Cyngor Cymuned Y Fali bwriadu Cyfethol 1 aelod i lenwi’r sedd gwag sydd ar gael ar gyfer Cynghorydd yng Nghymuned (Ward) Llanynghenedl.

Ceisir datganiadau o ddiddordeb gan aelodau o’r cyhoedd sy’n cyflawni’r meini prawf canlynol ac sydd â diddordeb mewn cynrychioli eu cymuned ar y Cyngor Cymuned dywededig. Rhaid bod yn ddinesydd Prydain, y Gymanwlad, Iwerddon neu’r Undeb Ewropeaidd ac yn 18 oed neu’n hŷn, ac yn cyflawni o leiaf un o’r meini prawf canlynol:

  • wedi’ch cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal a enwir uchod; neu
  • yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf, wedi bod yn berchennog neu’n denant tir neu safle arall yn y gymuned a enwir uchod; neu
  • wedi bod â’ch prif neu’ch unig weithle yn ystod y 12 mis diwethaf yn y gymuned a enwir uchod; neu
  • rydych wedi byw yn y Gymuned, neu o fewn 4.8 cilometr ohoni yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf

Os ydych yn dymuno cael eich ystyried i gael eich cyfethol ar gyfer y sedd(au) gwag, neu’n dymuno cael rhagor o wybodaeth ynghylch rôl Cynghorwyr Cymuned, cysylltwch â’r Clerc y Cyngor Cymuned ar/yn  valleycommunitycouncil@gmail.com erbyn (dyddiad cau) 10 Gorffennaf 2025

Mae rhai pobl penodol wedi’u hanghymhwyso rhag ymgeisio, yn eu plith swyddogion cyflogedig y Cyngor, unrhyw un sy’n destun gorchmynion cyfyngu methdalwyr a’r rheiny sy’n destun dedfrydau o garchar yn ddiweddar.  Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau ei bod yn gymwys i sefyll

Dyddiedig 20 Mehefin 2025

Cronfa Cydlyniant Cymunedol 2025/26

Mae Cronfa Cydlyniant Cymunedol Gogledd Orllewin Cymru yn gyfle i’ch mudiad wneud cais am grant o rhwng £500 a £5000 ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau sy’n dod a gwahanol gymunedau ynghyd o fewn Gwynedd, Ynys Mon a Chonwy. Mae pecynnau cais a gwybodaeth ar gael tan 13/06/25 drwy e-bostio cydlyniantcymunedol@ynysmon.llyw.cymru

 

Agoriad Swyddogol Cwrt Pêl-fasged ym Mharc Mwd

Croesawodd Cyngor Cymuned Y Fali drigolion lleol, dydd Sadwrn 24 Mai 2025, i’r agoriad swyddogol y Cwrt Pêl-fasged ym Mharc Mwd.

Braint oedd gwahodd Kieran Jones, pencampwr rhyngwladol pêl-fasged ag athletau mewn cadair olwyn a’i frawd Ryan hefyd yn chwaraerwr pêl-fasged pen ei gamp i dorri’r ruban ag agor y cwrt i’r gymuned. Y ddau frawd oedd yn gyfrifol i hau’ r syniad adeliadu’r cwrt yn y lle cyntaf.

Dywedodd Kieran “Sport has changed my life and it’s important that we start at grass root level”

Dywedodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Neil Tuck: “Mae’r cwrt pêl-fasged yn symbol o ymrwymiad cyffredin ein cymuned i hyrwyddo ffyrdd o fyw iach a gweithgar. Mae’n adlewyrchu gweledigaeth ein partneriaid, haelioni ein harianwyr, a gwaith caled pawb a helpodd i wireddu’r prosiect hwn. Gobeithiwn y bydd yn dod yn lle parhaol lle gall cenedlaethau’r dyfodol ddatblygu eu sgiliau, gwella eu lles, a bod yn falch o’r hyn y gellir ei gyflawni trwy gydweithio.”

Aeth ymlaen i fynegi diolch diffuant y Cyngor i’r holl randdeiliaid a wnaeth y prosiect yn bosibl trwy eu cefnogaeth hael — gan gynnwys cyllid grant gan Wobrau i Bawb Loteri Genedlaethol Cymru, Ymddiriedolaeth Elusen Ynys Môn, Dŵr Cymru, a Chynghrair Bro Llynnoedd. Estynnwyd diolch arbennig hefyd i G L Jones, adeiladwyr y prosiect, ac yn enwedig i Lagan Aviation Infrastructure Ltd., a ddarparodd yr holl seilwaith yn rhad ac am ddim fel rhodd i’r gymuned — cyfraniad hanfodol a sicrhaodd lwyddiant y prosiect. Derbyniodd Kieran, Ryan a Darren a’r ran Lagan Aviation dystysgrifau am eu cyfraniad gwerthafwr i’r gymuned a balchder bro.

Darparodd Swish Coaching Ltd sesiwn hyfforddi ar gyfer chwaraewyr ifanc i hyrwyddo diddordeb yn y gêm.

Ychwanegodd y Cynghorydd Sir Ken Taylor “Mae’r Cyngor yn falch o ddarparu’r adnodd hwn i’r gymuned ac yn edrych ymlaen at weld eraill fel Kieran a Ryan yn elwa o chwarae a chwaraeon.”

 

 

 

Lansio’r Cwrt Pêl-fasged newydd

 

Bydd y Cwrt Pêl-fasged newydd yn cael ei lansio’n swyddogol am 1pm ar ddydd Sadwrn 24/5/25 ym Mharc Mwd, y Fali. Bydd Kieran a Ryan Jones yn lansio’r Cwrt yn yn swyddogol a mae Sion Parry o Swish Coaching Ltd wedi trefnu i ddau hyfforddwr a thîm o Holyhead Celts (15 chwaraewr) ddarparu sesiynau hyfforddi i unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan! Bydd diodydd ar gael.

Cyfle hefyd i ddweud eich dweud – croeso i bawb!

 

 

 

 

 

 

 

 

Y GENEDL YN DIOLCH – DIWRNOD VE

Gwasanaeth diolchgarwch i goffau 80 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd 8 Mai 2025

Gwasanaeth hwyrol weddi Dydd Iau 08 Mai 2025 am 7yh yn Eglwys Sant Mihangel, Y Fali gyda gwasanaeth byr a gosod torch i ddilyn tua 7.45yh wrth y Cofeb Ryfel ym mynwent Ynys Wen, Y Fali.