HYSBYSIAD CYFETHOL
Adran 116 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011
RHODDIR HYSBYSIAD TRWY HYN fod Cyngor Cymuned Y Fali bwriadu Cyfethol 1 aelod i lenwi’r sedd gwag sydd ar gael ar gyfer Cynghorydd yng Nghymuned (Ward) Llanynghenedl.
Ceisir datganiadau o ddiddordeb gan aelodau o’r cyhoedd sy’n cyflawni’r meini prawf canlynol ac sydd â diddordeb mewn cynrychioli eu cymuned ar y Cyngor Cymuned dywededig. Rhaid bod yn ddinesydd Prydain, y Gymanwlad, Iwerddon neu’r Undeb Ewropeaidd ac yn 18 oed neu’n hŷn, ac yn cyflawni o leiaf un o’r meini prawf canlynol:
Os ydych yn dymuno cael eich ystyried i gael eich cyfethol ar gyfer y sedd(au) gwag, neu’n dymuno cael rhagor o wybodaeth ynghylch rôl Cynghorwyr Cymuned, cysylltwch â’r Clerc y Cyngor Cymuned ar/yn valleycommunitycouncil@gmail.com erbyn (dyddiad cau) 10 Gorffennaf 2025
Mae rhai pobl penodol wedi’u hanghymhwyso rhag ymgeisio, yn eu plith swyddogion cyflogedig y Cyngor, unrhyw un sy’n destun gorchmynion cyfyngu methdalwyr a’r rheiny sy’n destun dedfrydau o garchar yn ddiweddar. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau ei bod yn gymwys i sefyll
Dyddiedig 20 Mehefin 2025
Mae cynllun cymunedo
l yn rhestr o’r pethau yr hoffai’r gymuned eu datblygu yn eu hardal.
Hoffai Cyngor Cymuned Y Fali weithio ar hyn o fewn ffiniau’r Fali a Llanynghenedl, ac mae angen i chi gymryd rhan a rhoi eich syniadau a’ch awgrymiadau i ni.
Cliciwch y ddolen isod i gwblhau’r holiadur
https://forms.gle/ebWWuczo34v5qiYKA
Hysbysiad o benodi’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr – Cyngor Cymuned Y Fali
Sedd Gwag – Swydd Cynghorydd
Cymuned Y FALI / VALLEY
Ward LLANYNGHENEDL
Mae Cronfa Cydlyniant Cymunedol Gogledd Orllewin Cymru yn gyfle i’ch mudiad wneud cais am grant o rhwng £500 a £5000 ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau sy’n dod a gwahanol gymunedau ynghyd o fewn Gwynedd, Ynys Mon a Chonwy. Mae pecynnau cais a gwybodaeth ar gael tan 13/06/25 drwy e-bostio cydlyniantcymunedol@ynysmon.llyw.cymru
Croesawodd Cyngor Cymuned Y Fali drigolion lleol, dydd Sadwrn 24 Mai 2025, i’r agoriad swyddogol y Cwrt Pêl-fasged ym Mharc Mwd.
Braint oedd gwahodd Kieran Jones, pencampwr rhyngwladol pêl-fasged ag athletau mewn cadair olwyn a’i frawd Ryan hefyd yn chwaraerwr pêl-fasged pen ei gamp i dorri’r ruban ag agor y cwrt i’r gymuned. Y ddau frawd oedd yn gyfrifol i hau’ r syniad adeliadu’r cwrt yn y lle cyntaf.
Dywedodd Kieran “Sport has changed my life and it’s important that we start at grass root level”
Dywedodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Neil Tuck: “Mae’r cwrt pêl-fasged yn symbol o ymrwymiad cyffredin ein cymuned i hyrwyddo ffyrdd o fyw iach a gweithgar. Mae’n adlewyrchu gweledigaeth ein partneriaid, haelioni ein harianwyr, a gwaith caled pawb a helpodd i wireddu’r prosiect hwn. Gobeithiwn y bydd yn dod yn lle parhaol lle gall cenedlaethau’r dyfodol ddatblygu eu sgiliau, gwella eu lles, a bod yn falch o’r hyn y gellir ei gyflawni trwy gydweithio.”
Aeth ymlaen i fynegi diolch diffuant y Cyngor i’r holl randdeiliaid a wnaeth y prosiect yn bosibl trwy eu cefnogaeth hael — gan gynnwys cyllid grant gan Wobrau i Bawb Loteri Genedlaethol Cymru, Ymddiriedolaeth Elusen Ynys Môn, Dŵr Cymru, a Chynghrair Bro Llynnoedd. Estynnwyd diolch arbennig hefyd i G L Jones, adeiladwyr y prosiect, ac yn enwedig i Lagan Aviation Infrastructure Ltd., a ddarparodd yr holl seilwaith yn rhad ac am ddim fel rhodd i’r gymuned — cyfraniad hanfodol a sicrhaodd lwyddiant y prosiect. Derbyniodd Kieran, Ryan a Darren a’r ran Lagan Aviation dystysgrifau am eu cyfraniad gwerthafwr i’r gymuned a balchder bro.
Darparodd Swish Coaching Ltd sesiwn hyfforddi ar gyfer chwaraewyr ifanc i hyrwyddo diddordeb yn y gêm.
Ychwanegodd y Cynghorydd Sir Ken Taylor “Mae’r Cyngor yn falch o ddarparu’r adnodd hwn i’r gymuned ac yn edrych ymlaen at weld eraill fel Kieran a Ryan yn elwa o chwarae a chwaraeon.”
Bydd y Cwrt Pêl-fasged newydd yn cael ei lansio’n swyddogol am 1pm ar ddydd Sadwrn 24/5/25 ym Mharc Mwd, y Fali. Bydd Kieran a Ryan Jones yn lansio’r Cwrt yn yn swyddogol a mae Sion Parry o Swish Coaching Ltd wedi trefnu i ddau hyfforddwr a thîm o Holyhead Celts (15 chwaraewr) ddarparu sesiynau hyfforddi i unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan! Bydd diodydd ar gael.
Cyfle hefyd i ddweud eich dweud – croeso i bawb!
GORCHYMYN CYNGOR SIR YNYS MôN (GWAHARDD TRAFFIG TRWODD DROS DRO) (LON GORAD, Y FALI) 2025