Rhybudd o Fwriad – Stryd y Cae a Carna Terrace
RHYBUDD O FWRIAD
DEDDF RHEOLI TRAFNIDIAETH FFYRDD,1984 ADRAN
14(1) FEL Y’I DIWYGIWYD GAN DDEDDF TRAFNIDIAETH
FFYRDD (CYFYNGIADAU DROS DRO), 1991
GORCHYMYN CYNGOR SIR YNYS MÔN /
ISLE OF ANGLESEY COUNTY COUNCIL
(GWAHARDD TRAFFIG TRWODD DROS DRO) (STRYD Y
CAE A CARNA TERRACE, Y FALI) 2026
RHODDIR DRWY HYN RYBUDD fod Cyngor Sir Ynys Môn/Isle of Anglesey County Council yn bwriadu dim llai na saith niwrnod ar ôl dyddiad y rhybudd hwn wneud Gorchymyn bydd yn gwahardd dros dro pob cerbyd, ac eithrio cerbydau argyfwng, rhag teithio mewn unrhyw gyfeiriad ar hyd Stryd y Cae a Carna Terrace, Y Fali.
Mae angen y Gorchymyn er i alluogi gwaith polion. Y ffordd arall fydd o ben gogleddol y rhan sydd ar gau. Teithiwch i gyfeiriad de-ddwyreiniol ar hyd yr A5 at y groesffordd, yna trowch i’r dde i Ffordd yr Orsaf. Wedyn, teithiwch i gyfeiriad gorllewinol ar hyd Ffordd yr Orsaf at y gyffordd â Carna Terrace, a trowch i’r dde i gyrraedd pen arall y rhan sydd ar gau. Bydd y gwrthwyneb yn berthnasol i draffig sy’n teithio o’r cyfeiriad arall.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 2il Rhagfyr 2026 a bydd yn parhau mewn grym am gyfnod na fydd yn fwy na 6 wythnos neu hyd nes y cwblheir y gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd, pa un bynnag fyddo gyntaf. Ar hyn o bryd disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau ar 2il Rhagfyr 2026.
Plan – Stryd y Cae a Carna Terrace Y Fali
DYDDIEDIG 11/11/2026 DATED
……………………………………………
LYNN BALL
CYFARWYDDWR SWYDDOGAETH (BUSNES Y CYNGOR)/SWYDDOG MONITRO
DIRECTOR OF FUNCTION (COUNCIL BUSINESS)/MONITORING OFFICER
CYNGOR SIR YNYS MÔN / ISLE OF ANGLESEY COUNTY COUNCIL
SWYDDFA’R SIR/COUNTY OFFICES, LLANGEFNI, YNYS MÔN LL77 7TW
AM FWY O WYBODAETH YNGLYN Â’R UCHOD CYSYLLTWCH Â’R ADRAN GYFREITHIOL AR /
FOR FURTHER INFORMATION REGARDING THE ABOVE PLEASE TELEPHONE THE LEGAL
SECTION ON LLANGEFNI 01248 752389 HT-028089-SMJ
