Rhybudd o Fwriad – Llwybrau Troed 13 a 23

RHYBUDD O FWRIAD
DEDDF RHEOLI TRAFNIDIAETH FFYRDD,1984 ADRAN
14(1) FEL Y’I DIWYGIWYD GAN DDEDDF TRAFNIDIAETH
FFYRDD (CYFYNGIADAU DROS DRO), 1991
GORCHYMYN CYNGOR SIR YNYS MÔN /
ISLE OF ANGLESEY COUNTY COUNCIL
(CAU LLWYBR TROED DROS DRO) (LLWYBR TROED
RHIF 13 Y FALI A LLWYBR TROED RHIF 23 LLANFAIR YN
NEUBWLL) 2026

RHODDIR DRWY HYN RYBUDD fod Cyngor Sir Ynys Môn/Isle of Anglesey County Council yn bwriadu dim llai na saith niwrnod ar ôl dyddiad y rhybudd hwn wneud Gorchymyn bydd yn gwahardd dros dro defnydd o:

Llwybr Troed 13 Y Fali – o Ffordd yr Orsaf, Y Fali (SH2923979104) mae’r llwybr yn mynd i gyfeiriad y deddwyrain yn gyfochrog â’r rheilffordd am 433m i bont droed dros Afon Cleifiog (SH2944878728).

Llwybr Troed rhif 23 Llanfair-yn-Neubwll – o bont droed dros Afon Cleifiog (SH2944878728), mae’r llwybr yn mynd i gyfeiriad y de-ddwyrain yn gyfochrog â’r rheilffordd am 341m i’r briffordd sirol ger Ty’n Llain.

Nid oes ffordd arall ar gael.

Mae’r Gorchymyn yn angenrheidiol i sicrhau diogelwch y cyhoedd oherwydd pont droed sydd mewn cyflwr gwael tua hanner ffordd ar hyd y llwybrau uchod.

Daw’r Gorchymyn i rym ar 5 Tachwedd 2026 a bydd yn parhau mewn grym am 6 mis neu nes bod y gwaith ar y bont wedi’i gwblhau, pa un bynnag sydd gyntaf.

Map

DYDDIEDIG 21/10/2026 DATED
……………………………………………
LYNN BALL

CYFARWYDDWR SWYDDOGAETH (BUSNES Y CYNGOR)/SWYDDOG MONITRO
DIRECTOR OF FUNCTION (COUNCIL BUSINESS)/MONITORING OFFICER
CYNGOR SIR YNYS MÔN / ISLE OF ANGLESEY COUNTY COUNCIL
SWYDDFA’R SIR/COUNTY OFFICES, LLANGEFNI, YNYS MÔN LL77 7TW

AM FWY O WYBODAETH YNGLYN Â’R UCHOD CYSYLLTWCH Â’R ADRAN GYFREITHIOL AR / FOR
FURTHER INFORMATION REGARDING THE ABOVE PLEASE TELEPHONE THE LEGAL SECTION ON
LLANGEFNI 01248 752591 HT-028023-SMJ

Comments for this post are closed.