Mae Cyngor Cymunedd y Fali wedi gosod nifer o feinciau mewn gwahanol lefydd o gwmpas y pentref ac o fewn ardaloedd agored sydd ym mherchnogaeth neu o dan reolaeth y Cyngor Cymuned.

Gellir cyflwyno mainc i’r cyngor er coffa am berson annwyl neu gellir caniatau i aelod o’r cyhoedd wneud cyflwyniad o’u dewis.  Gellir lleoli mainc a gyflwynwyd er coffa ar dir sydd naill ai ym merchenogaeth Cyngor Cymuned y Fali neu a reolir ganddo.

Dyma’r llecynnau:-
Parc Cymunedol Parc Mwd
Y man chwarae sydd ar bwys Ysgol Gymuned y Fali
Ynys Wen (caniateir dim mwy na phedair mainc yn y Fynwent ar yr un pryd)

Mae’r Cyngor yn hyrwyddo cynaliadwyedd a bioamrywiaeth ac mae wedi mabwysiadau rhaglen dros gyfnod o flynyddoedd o newid pob mainc gyda meinciau newydd wedi eu gwneud o ddeunydd y gellir eu hailgylchu.

Gallwch gyflwyno mainc newydd o ddeunydd y gellir ei ailgylchu ynghyd â phlac o ddur ‘stainless’ gyda geiriau o’ch dewis chi.

Am wybodaeth ar sut i gyflwyno mainc, cliciwch ar y linc “Polisi Noddi Mainc” islaw neu cysylltwch gyda’r Clerc drwy ebost i valleycommunitycouncil@gmail.com.

Polisi Noddi Mainc