Croeso i Wefan newydd Cyngor Cymuned Fali
Yma cewch wybodaeth werthfawr ar gyfer trigolion ac ymwelwyr i Fali, gan gynnwys:
- Manylion y Cynghorydd sy’n cynrychioli eich ward ar Gyngor Cymuned Fali
- Cysylltiadau at wybodaeth o’r gwasanaethau a ddarperir gan Gyngor Cymuned Fali
- Dyddiadau, Agendau a Chofnodion Cyfarfodydd o Gyngor Cymuned Fali
- Gwybodaeth ar Lywodraethiant Cyngor Cymuned Fali
- Manylion cyswllt i’ch galluogi i ddod i gysylltiad
COVID-19
Am newyddion a gwybodaeth ynglyn a Cofid 19 i drigolion ac ymwelwyr y Fali, ewch i ein tudalen bwrpasol ar gyfer Cofid19 os gwelwch yn dda.
Brasserie Catch 22 yn cynnig cinio nadolig am ddim i rai mewn angen
Brasserie Catch 22 yn cynnig cinio nadolig tri cwrs am ddim i rai mewn angen yn Y Fali a'r ardal o gwmpas, sydd wedi ei ariannu gan aelodau criw awyrlu Y Fali.
Os y gwyddoch am unrhyw un fyddai yn cael budd o bryd, fydd yn cael ei ddanfon ar 24 rhagfyr, cysylltwch gyda Angela Walker ar y rhif yn y poster amgaeedig.
NEWYDDION
Rhybudd o Ganlyniad Archwiliad - 19-11-2020
Ffurflen flynyddol 31-03-20
Adroddiad Materion yn Codi 31-03-20
Cyhoeddi cyfrifon archwiliedig ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2020
Mae rheoliad 15 (5) o Reoliadau Cyfrifon ac archwilio (Cymru) 2014 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol, erbyn 30 Medi 2020, i Cyngor Cymuned y Fali gyhoeddi ei ddatganiadau cyfrifyddu ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2020 ynghyd ag unrhyw dystysgrif, barn neu adroddiad a gyhoeddwyd, a roddwyd neu a wnaed gan yr Archwilydd Cyffredinol.
Mae'r datganiadau cyfrifyddu ar ffurf ffurflen flynyddol wedi'u cyhoeddi ar wefan y Cyngor. Fodd bynnag, cyhoeddir y cyfrifon cyn i'r archwiliad ddod i ben. Oherwydd effaith COVID-19, nid yw'r Archwilydd Cyffredinol wedi cyhoeddi barn archwilio eto.
Ail-wynebu’r A55 (Gwedd 8) – Y Fali a Chaergeiliog - Cyffordd 3 a 4
Bydd gwaith ail-wynebu Gwedd 8 sydd wedi'i leoli o amgylch Y Fali a Chaergeiliog yn dechrau ar y 16eg o Fedi 2020
Bydd y gwaith yn dechrau ar y ffordd i gyfeiriad y gorllewin, gyda system wrthlif ar y ffordd i gyfeiriad y dwyrain am gyfnod o dair wythnos, yna byddwn yn dechrau ar y gwaith ar y ffordd i gyfeiriad y dwyrain. Mae rhaglen y gwaith am gyfnod o 6 wythnos os y bydd y tywydd yn caniatáu. Bydd angen cau'r ffordd am rai nosweithiau er mwyn ail-wynebu ardaloedd ger y mannau croesi.
Mae Cyffordd 3 a 4 wedi'u lleoli yn ardal y gwaith. Bydd angen cau’r ddwy gyffordd am gyfnodau.
GWARCHODFA BWS GER GWESTY'R BULL, FALI
Mae Cyngor Cymuned y Fali yn yn falch o hysbysebu y bydd gwarchodfa bws newydd sbon yn cael ei osod yn lle yr un cafodd ei dynnu lawr yn ddiweddar. Fe fydd yn cael ei osod oddeutu y 6ed o Hydref.
Rhybudd o Fwriad: Gwahardd traffig trwodd dros dro, Croesfan Rheilffordd Y Fali
Rhybudd o Fwriad: Gwahardd traffig trwodd dros dro, Lon Traeth, Y Fali
Sbwriel a baeddu cŵn ym Mharc Mwd
Mae Parc Mwd yn ased gwerthfawr iawn i gymuned y Fali ac mae yn siomedig fod rhai o bobl sydd yn ei ddefnyddio y dewis i adael sbwriel o gwmpas y parc ynghyd a baw cŵn.
Byddwn yn gofyn yn barchus i ddefnyddwyr y parc sicrhau ei bod yn rhoi sbwriel/ baw ci yn y biniau ger y pafiliwn neu, ar adegau pan mae y biniau yn llawn, mynd a fo adref gyda nhw.
Diolch yn fawr.
Arolwg o'r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Ynys Mon - cyfle i gynnig sylwadau
MAES PARCIO
Mae bricsen balmant rhydd yn y maes parcio ac fe fydd Adran Briffyrdd Cyngor Sir Ynys Mon yn gwneud gwaith adewyddu yno yn fuan. Yn y cymamser cymerwch ofal ychwannegol os gwelwch yn dda.
DWR YN SEFYLL YN Y CAE GER CYFFORDD LON GORAD
Ceir gohebiaeth gan Network Rail y bydd gwaith yn cychwyn i wella'r sefyllfa rhwng 15 a 19 Mehefin 2020.
Hysbysiad o Gyfethol - Ward Gorllewin - 04/03/20
Blwch Signal, Y Fali
Mae Cyngor Cymuned y Fali wedi mynegi pryderson ynglyn a chyflwr y blwch signal yn Fali gyda Network Rail nifer o weithiau.
Yn Mai 2019 cawsom wybod fod amcangyfrif ar gyfer y gwaith i'w dderbyn erbyn y 17 o Fai a phan fyddai hwn wedi ei arolygu, byddai cais ar gyfer rhaglenni'r gwaith yn cael ei wneud. Rhoddir amcangyfrif y byddai'r gwaith yn cychwyn yn ystod Haf 2019.
Yn absenoldeb unrhyw gynydd, fef ydd y Cyngor yn parhau i godi'r mater gyda Network Rail.er mwyn sefydlu dyddiad pendant ar gyfer cychwyn y gwaith.
30.09.19
Heddiw, mae Network Rail wedi cadarnhau fod y tendrau ar gyfer y blwch signal i fod i mewn wythnos nesaf a dylai'r cytundeb gael ei osod erbyn diwedd mis Hydref gyda gwaith i gychwyn cyn gynted a bydd yn ymarferol. Fe fydd Network Rail yn gadael i'r Cyngor Cymuned wybod pan fydd y dyddiad cychwyn wedi ei gadarnhau.
Rhybudd o Ganlyniad Archwiliad ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31-03-19
AROLWG O'R TREFNIADAU ETHOLIADOL AR GYFER SIR YNYS MON
Hysbysiad o bennu dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr - Y flwyddyn sy'n diweddu 31 Mawrth 2019
Hysbysiad o Gyfethol - Ward Llanynghenedl
RHODDIR HYSBYSIAD TRWY HYN fod Cyngor Cymuned Y Fali yn bwriadu Cyfethol un aelod i lenwi’r lle gwag sydd ar gael ar gyfer Cynghorydd yn Ward Llanynghenedl.
Hysbysiad o Gyfethol - Ward Pentref
RHODDIR HYSBYSIAD TRWY HYN fod Cyngor Cymuned Y Fali yn bwriadu Cyfethol un aelod i lenwi’r lle gwag sydd ar gael ar gyfer Cynghorydd yn Ward Pentref.
Sul y Cofio 11/11/2018
Gwasanaeth yn Eglwys Sant Mihangel y Fali 11/11/18 am 11.30 y bore
Gwasanaeth yn Ynys Wen, Y Fali 11/11/18 am 12.45 y prynhawn.
Y mae rhybudd yn cael ei roddi bod yr archwiliad ar gyfer y flwyddyn yn diweddu ar 31 Mawrth 2018 wedi ei gwblhau ar 27 Medi 2018 ac mae'r cyfrifon yn awr ar gael i etholwyr lIeol eu harchwilio yn unol ag Adran 29 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. [ fwy o fanylion ]
CAR LINC MÔN
Cynllun cludiant cymunedol cymdeithasol gwirfoddol ar Ynys Môn ydy Car Linc Môn. Mae’r gwasanaeth ar gael i bobl sydd heb unrhyw ffordd arall o wneud teithiau hanfodol. Mae’r cynllun yn bennaf ar gyfer ardaloedd gwledig lle mae gwasanaethau cludiant cyhoeddus yn brin, ond hefyd ar gyfer pobl sydd ddim yn ddigon ffit i ddefnyddio cludiant cyhoeddus - yn y wlad neu’r dref.
Sut mae ‘Car Linc Môn’ yn gweithio?
Pan fydd person sydd angen cludiant ar gyfer taith hanfodol yn cysylltu â Medrwn Môn, bydd aelod o staff yn cofnodi’r manylion, yn cadarnhau bod y daith yn gymwys, ac yn ffonio i gael hyd i yrrwr sy’n gallu gwneud y siwrne. Mae angen o leiaf 3 diwrnod o rybudd, a lle bo modd, trefnir teithiau sy’n cyfuno anghenion nifer o deithwyr.
Pwy sy’n cael defnyddio ‘Car Linc Môn’?
Mae Car Linc Môn yn wasanaeth sydd ar gael i drigolion Ynys Môn (50+ oed) ar gyfer gwneud teithiau hanfodol ar adegau lle nad oes cludiant addas arall ar gael.
Cost y Gwasanaeth
Cost pob taith hefo Car Linc Môn ydy £4.50 am y 6 milltir cyntaf, ac yna 55c y filltir wedyn. Fe fydd y gyrrwr yn derbyn 50c y filltir am bob siwrne. Swyddog o Medrwn Môn sydd yn gweinddu’r holl daliadau.
Rhowch glic yma am fwy o fanylion am Car Linc Môn
CAR LINC MÔN: 01248 725745 linc@medrwnmon.org
HANES PENTREF FALI
Y diweddar Barchedig R. Hughes, Coedlys, Fali ddechreuodd ymchwilio i darddiad enw’r pentref. Gwnaed yr ymchwil yn ystod y flwyddyn lle roedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn lleol.
Dechreuodd y Parchedig Hughes ei ymchwil trwy edrych ar hanes y plwyf. Plwyf Llanynghenedl ydy’r plwyf a dyma’r enw a roed ar y Cyngor Cymuned hyd at rhyw ychydig flynyddoedd yn ôl, er bod pentref y Fali cryn dipyn yn fwy an phentref Llanynghenedl. Sant oedd Enghenedl a oedd yn byw yn y bumed ganrif a’r farn yw bod yr ail eglwys yn Llanynghenedl wedi ei hadeiladu ar safle’r eglwys gyntaf. Mae’r ail eglwys bellach wedi ei dymchwel ac fe symudwyd y meini i Awyrlu’r Fali ar gyfer adeiladu’r eglwys yno.
Wrth gyfeirio sawl gwaith at y Fali, bu i Owen Jones, ‘Melidwy Môn’ ddatgan mai ‘Faelwy’ oedd enw’r pentref ac nid Valley fel yr adwaenir ef heddiw. Datganodd Robert Pierce, Criglas, a fu farw yn 1881 yn 86 oed, henadur a gweinyddwr lleol, wrth adeiladu y ffordd o Borthaethwy i Gaergybi, pellter o rhyw ddeunaw milltir a hanner fe ddaethpwyd cyn belled â’r cob. Yno daethant ar draws bryn bychan y bu rhaid torri trwyddo. Ar naill ochr y toriad hwn roedd mannau a elwid yn ‘Glan-Môr Tŷ Coch’ ac ar yr ochr ogleddol, man a adwaenir heddiw fel Gorad, roedd tir a elwid yn Castell Llyffant.
Go brin bod Telford na’i weithwyr yn gallu ynganu’r enwau hyn ac ar ôl cwblhau’r toriad bu iddynt alw’r llecyn yn ‘Fali’ yn unol â’i ddaearyddiaeth newydd. Yn ddiweddarach adwaenid y man hwn fel ‘Hen Fali’ a’r prif bentref yn ‘Fali’. Mae hyn yn rhoi tarddiad yr enw o gwmpas y flwyddyn 1822.
Crynodeb o “Valley, memories of a growing village” gyda chaniatâd J. Alun Shorney